Non GwenhwyfarDAVIESYn dawel yng nghwmni ei theulu ar 4 Hydref, 2021, Non, o Benarth, (gynt o Bontyberem a Llangyndeyrn) yn 80 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Garwyn, mam gariadus Ceri ac Angharad, mam-gu addfwyn Elian a Soffia, chwaer a chwaer-yng-nghyfraith arbennig, a chyfaill triw a hwyliog i lawer. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd ar ddydd Gwener, 5 Tachwedd am 11am. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir cyfraniadau, os dymunir, tuag at ymchwil i glefyd Crohn's. Sieciau yn daladwy i 'King's College London' trwy law Bob Roberts, 99 Cefn Graig, Rhiwbeina, Caerdydd, CF14 6JY.
Keep me informed of updates