Dennis WynJONES14 Hydref, 2026. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, Crud yr Awel, West End, Pen-y-groes gynt, yn 94 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Evelyn, a thad cariadus Arwyn ac Eleri; tad-yng-nghyfraith annwyl Susan a Lewis, a thaid balch Angharad ac Eirian ac Arwel a Delyth. Hen-daid arbennig Lander, Endeavour, Vesper a Mabli Nel, a brawd hoff Gwen, Oliver a'r teulu, a'r diweddar Richard Glyn. Angladd fore Llun, 23 Tachwedd, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Crist, Pen-y-groes am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdano tuag at Ymchwil Dementia. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates