Mary AnnDAVIESMay Yn dawel yng Nghartref Maesllewellyn, Castellnewydd Emlyn, ddydd Sul 31ain o Fawrth, 2019, May, gynt o Geryllan, Drefach Felindre yn 97 mlwydd oed. Priod hoff y diweddar Joseph, mam a mam-yng-nghyfraith annwyl Ann ac Anthony, Benny a Mai mamgu dyner Llinos a Sian, hen-famgu gariadus Paidy. Angladd i'r teulu a ffrindiau yng Nghapel Gorffwys Bethel, Castellnewydd Emlyn ddydd Gwener 5ed o Ebrill am 1.00 o'r gloch, yna cleddir ym Mynwent Capel Soar, Cwmpengraig. Blodau teulu yn unig. Rhoddion os dymunir i Gartref Maesllewellyn, sieciau daladwy i "Carmarthenshire County Council" trwy law Mr Hywel Bowen, Trefnwyr Angladdau D. L. Davies, Llys Gwyddon, Castellnewydd Emlyn.
Keep me informed of updates