MerfynJAMESAr yr ail o Fehefin 2025 hunodd Merfyn o Isfryn Ganllwyd yn dawel yng nghartref Cefn Rodyn yn 88 mlwydd oed.
Priod a ffrind gorau y ddiweddar Gwen, Tad annwyl Gareth ac Eleanor a thad yng nghyfraith Ann. Taid hoffus Glesni, Rhydian, Ynyr, Llifon, Rhodri, Arianwen, Eilir a Llion, a hen daid hwyliog a direidus iw orwyrion a'i orwyresau. Brawd mawr Mary a Rhiannon.
Gwasanaeth cyhoeddus yng nghapel Annibynwyr Brithdir ar ddydd Gwener, Mehefin 27 ain am 1 yp ac i ddilyn yn y fynwent.
Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Merfyn tuag at "Cymdeithas Y Deillion Gogledd Cymru".
Ymholiadau Peredur Roberts Derwgoed, Llandderfel Bala, LL23 7HG
Keep me informed of updates