Wynn ReesWILLIAMSYn dawel ar ddydd Sadwrn 30 Rhagfyr 2017 tra yng nghwmni ei deulu yn ei gartref Arfryn, Llwyndafydd, Cei Newydd, hunodd Wynn yn 75 mlwydd oed; tad hoffus Geraint a Sian, tadcu cariadus Morgan a Molly a chefnder annwyl Rae. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus yn Eglwys Sant Carannog, Llangrannog ddydd Sadwrn 6 Ionawr 2018 am 12.00 o'r gloch ac yna i ddilyn rhoddir i orffwys ym Mynwent Capel -y-Wig. Plethdorch y teulu yn unig derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir tuag at 'Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref, Aberystwyth a'r cylch' trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Rhydlewis, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH Ffon 01239 851005.
Keep me informed of updates