Eirwen MarpoleDANIELDANIEL - EIRWEN MARPOLE, 23ain o Hydref 2018. Yn dawel o Llysteg, Llan, Llanbrynmair yn 92 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Evan, Mam hoff John, Margaret, David, Gwenda, Alun a Gwyneth a'u teuluoedd, nain a hen-nain gariadus. Gwasanaeth yng Nghapel Bethel, Bont Dolgadfan, dydd Iau 1af o Dachwedd am 12.30 o'r gloch. I ddilyn ym Mynwent Tref Machynlleth. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Capel Bethel Bont Dolgadfan a Clwb-y-Ddol Llanbrynmair trwy law Mr. Gwyndaf Davies, Gilwern, Llanbrynmair, Powys, SY19 7DY a Mr. Tom Allday Can yr Afon, Bont Dolgadfan, Powys, SY19 7BB. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys, SY20 9JD. Ffôn: 01650 531 240 neu Dolgellau 01341 422 322.
Keep me informed of updates