Dilys MaryDAVIESYn dawel ddydd Sul Hydref 5 yn Ysbyty Llwynhelyg Hwlffordd, hunodd Dilys yn 93oed; priod ffyddlon y diweddar Jack, mam annwyl, Tony, Sian a Valerie. Mam yng ngyfraith addfwyn Ann, Gwyn a john, mamgu gariadus Rhodri ac Angharad, Katherine ac Andrew, Kim, Helen a Lindsey, chwaer hoffus Bette, modryb Diane, Ian a Huw a hen famgu balch. Gwasanaeth cyhoeddus ddydd Llun Hydref 13 yng Nghapel Hermon a Hergwaun am 12 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion os dymunir tuag at Ward 7 Ysbyty Llwynhelyg Hwlffordd, trwy law'r trefnydd angladdau Mr Peter Evans, 54 Pendre, Aberteifi, SA43 1JR. Ffon 01239 615266
Keep me informed of updates