Dylan GriffithsDAVIESYn dawel yn ei gartref yng nghwmni ei deulu fore Sadwrn, Tachwedd 3ydd, 2018, wedi cystudd blin a ddioddefodd yn ddewr hunodd Dylan, Parce, Cwmcou, Castell Newydd Emlyn yn 62 mlwydd oed, (Dylan, Treicert, Nanhyfer, gynt), priod annwyl Mai, tad cariadus Dyfed ac Anwen, tad-yng-nghyfraith hoff Christine a Jonny a thad-cu balch iawn Haydn, Joshua, Oliver a Toby. Angladd breifat yn ôl ei ddymuniad. Blodau'r teulu agos yn unig. Derbynnir rhoddion, os dymunir, tuag at Nyrsys Cymunedol Castell Newydd Emlyn ac Uned Cemotherapi Ysbyty Glangwili trwy law Alun M. Esau, Trefnwr Angladdau, Soar, Sarnau, Llandysul, Ceredigion. SA44 6QS. (01239 654240).
Keep me informed of updates