DelythDAVIESYn dawel ar ddydd Gwener yr 21ain o Chwefror 2020, hunodd Delyth (gynt o Cwmann a Llanybydder) yn Plas y Wennol, Llanarth. Priod annwyl y diweddar Evan, mam cariadus Eirioes a Dylan, mam yng nghyfraith Mineira, mamgu balch Rhys, Ywain, Llion, Gwawr a Harri, hen famgu i Sam, Heti, William, Ben, Jos a Tomi, ac yn chwaer a chwaer yng nghyfraith hoffus. Gwasanaeth i'r teulu, ffrindiau ac aelodau'r capel yng Nghapel Aberduar, Llanybydder dydd Gwener 28ain Chwefror 2020 am 11 y bore. Blodau'r teulu yn unig, unrhyw ymholiadau pellach i Gwilym C. Price ei Fab a'i Ferched. (01570 422673).
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Delyth