RuthEDWARDSYn dawel yn ei chartref ddydd Mercher, Tachwedd 23, 2016 hunodd Ruth, Glannant, Cross Inn, yn 60 mlwydd oed; priod annwyl Vivian, mam hoffus Philip a Kirsty, Gary a Bethany, Rhiannon a Marc ac Euros a Sarah a mam-gu gariadus. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Llwchaiarn, Cei Newydd ddydd Gwener, Rhagfyr 2 am 12 o'r gloch ac yna yn breifat yn Amlosgfa Aberystwyth am 2 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, derbynnir rhoddion, os dymunir, tuag at Ward Meurig, Ysbyty Bronglais a Meddygfa Cei Newydd trwy law Alun M. Esau, Trefnwr Angladdau, Soar, Sarnau, Llandysul, Ceredigion, SA44 6QS. Ffon. 01239 654240.
Keep me informed of updates