Evan ElfedEVANSEVANS - EVAN ELFED. Ebrill 26 2016. Hunodd yn dawel yng nghwmni ei deulu, yn Ysbyty Bryn Beryl ac o Annedd Wen, Pengroeslon, Sarn, yn 93 mlwydd oed. Annwyl briod Megan a thad tyner Rhian a'i phriod Gwyn. Brawd bach hoffus ei ddiweddar chwiorydd a brawd. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Hebron, Llangwnadl, dydd Sadwrn Ebrill 30 am 1 o'r gloch ac i ddilyn yn y fynwent. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru,trwy law yr ymgymerwr R O Jones, Talafon, Tudweiliog, Pwllheli 01758 770456.
Keep me informed of updates