Delyth ElizabethFOULKES21ain o Hydref 2023. Yn dawel yn Ysbyty Brenhinol Amwythig yng nghwmni ei mab David a'i merch-yng-nghyfraith Meiriona, o Cae Maenllwyd, Machynlleth, yn 92 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Gwilym, mam a mam-yng-nghyfraith hoff David a Meiriona, a'r diweddar Elizabeth a Gwyn, nain gariadus i Anna, Dafydd, Glyn a'r diweddar Iwan, a hen-nain addfwyn. Gwasanaeth yn Amlosgfa Aberystwyth, dydd Mercher, 8fed o Dachwedd am 12 o'r gloch. Yn lle blodau, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Nyrsus Cymunedol Bro Ddyfi, trwy law Mr Evan Jones, Llety Ifan, Mallwyd, Machynlleth, Powys, SY20 9HS. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys, SY20 9JD. Ffôn: 01650 531 240. Glyn Rees & Son Ltd
Tremynfa
Wyle Cop Street
Keep me informed of updates