Alice LilyGRIFFITHLil Yn dawel yng Ngartref y Pwyliaid, Penrhos, gynt o Meillteyrn Ganol Sarn yn 92 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Dafydd, mam arbennig i Ann a Glenys a'r diweddar Marian a Dewi, nain gariadus a hen nain hoffus. Chwaer i Bet a'i diweddar frodyr a chwiorydd. Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Salem, Sarn dydd mawrth Ionawr y 10fed am 11 y bore ac i ddilyn ym Mynwent Edern. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Gartref y Pwyliaid Penrhos , trwy law G W Parry Gallt y Beren Rhydyclafdy 01758 740233.
Keep me informed of updates