Dafydd GlynHUWSHUWS - DAFYDD GLYN, . IONAWR 28 2018. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Bryn Beryl o Perthi, Nefyn yn 89 mlwydd oed. Priod hoff y ddiweddar Helen a thad annwyl Simon, Sharon a Rhys. Tad yng nghyfraith Rhian, Henri ac Annest. Taid cariadus Gweno, Guto, Catrin, Elin Hari, Miriam, Branwen a Gethin, hen daid Nansi a Hari. Brawd ffyddlon Gwyneth ac Elwyn a'r diweddar Dennis ac Ellis. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Isa', Nefyn, dydd Gwener, Chwefror 2ail, am 1 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Nefyn. Blodau'r teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gyfeillion Bryn Beryl, trwy law yr ymgymerwr R O Jones, Talafon, Tudweiliog, Pwllheli LL53 8NE. 01758 770456.
Keep me informed of updates