Robert JohnJONESJONES - ROBERT JOHN, Ebrill 6ed 2017. Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, o Monachdy, Tudweiliog yn 94 mlwydd oed. Efaill ffyddlon y diweddar Huw, a brawd annwyl y ddiweddar Maggie a Nan. Ewythyr caredig Maira, Laura, Margaret a Vida, a hen ewythyr hynod i Gareth a'i gyd orneiaint a gornithoedd. Angladd dydd Iau, Ebrill 13eg. Gwasanaeth cyhoeddus yn ei gartref, Monachdy am 12.30 o'r gloch ac i ddilyn yn Amlosgfa, Bangor. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Robin tuag at Gartref Plas Hafan, Nefyn, trwy law yr ymgymerwr R O Jones, Talafon, Tudweiliog, Pwllheli 01758 770456.
Keep me informed of updates