MaryROBERTSBu farw Mary yng Nghartref Plasgwyn, Pentrefelin yn gynnar y bore ar y 7fed o Ebrill 2024, yn 49 mlwydd oed ar ol brwydro bywyd wedi cael stroc ym mis Awst.
Mam gariadus i Stacy, Enlli, Guto, Huw a Sion. Merch annwyl i Hubert a Susan Chidley, chwaer garedig i Huw, Roy, Elen, a John. Bu Mary yn ffrind annwyl i lawer o drigolion Pwllheli a Phen Llyn a bydd yn golled fawr i'w chymuned.
Angladd preifat yng Nghapel Bethel Penrhos dydd Gwener Ebrill 12fed am 1.00, gyda y cyhoedd yn cael eu gwahodd i'r fynwent am 1.30 yh. Blodau'r teulu yn unig ,gyda chroeso i roddion tuag at Cartref Plasgwyn, a fu yn gymorth mawr iddi hi a'r teulu yn ystod ei misoedd diwethaf.
G W Parry Gallt y Beren Rhydyclafdy 01758 740233.
Keep me informed of updates