Robert JohnWILLIAMSGorffennaf 9, 2024 Yn dawel yng nghwmni ei deulu triw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor o Tyddyn Badin, Pentir yn 87 mlwydd oed. Tad cariadus John, Sharon, Alun a Dewi; tad yng nghyfraith Sandra a Vince; taid annwyl a ffeind Rhian a Lowri. Colled drist i'w deulu, ei gymdogion a'i ffrindiau oll am ŵr bonheddig a chymwynasgar.
Angladd ddydd Mercher, Gorffennaf 17, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Cysegr Bethel am 11.30 o'r gloch a rhoddir i orffwys ym Mynwent Eglwys Santes Helen, Penisarwaen. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof tuag at Ysbyty Alder Hey.
Ymholiadau pellach i Dylan Griffith Cyfarwyddwyr Angladdau, Tros y Waen, Penisarwaen, Caernarfon. Ffôn 01286 871833
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Robert