ElfrynMORUSBu farw yng nghwmni ei wraig yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar y 22ain o Fawrth 2022. Yn wreiddiol o Pontsian, Ceredigion ond bellach o Coed Gwydryn, Waunfawr, Caernarfon. Priod annwyl a ffyddlon Ann, a thad cariadus Deian a'i wraig Gwenno, Heledd a'i gŵr Aled, Osian a'i wraig Sian; tad-cu balch a gofalgar Lili a Nansi, Betsan a Cadi, Gruff a Siwan, a brawd annwyl Jess a'i gŵr Ieuan. Fe welir ei golli yn fawr gan ei deulu a'i ffrindiau. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ar yr 8fed o Ebrill am 2.30 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, dim dillad galar os gwelwch yn dda. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os y mynnir tuag at Gronfa Meddygfa Newydd, Waunfawr. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Elfryn