MaryJONESJONES - MARY. Dymuna teulu'r diweddar Mary Jones, Tremadog a Noddfa Garage gynt, ddatgan eu gwerthfawrogiad am bob arwydd o gydymdeimlad a dderbynwyd yn eu profedigaeth o golli mam, nain, hen nain, chwaer, chwaer yng nghyfraith a ffrind ffyddlon. Diolch i staff Cartref Bodawen am eu gofal amhrisadwy, i'r Ganolfan Dydd, Encil y Coed yng Nghricieth am y croeso ac adloniant, i Brian y dreifar oedd yn ei thywys yn ól ac ymlaen i'r Ganolfan. Ein diolch cywiraf i Mr Christopher Prew, Gweinidog Capel y Porth am ei deyrngarwch ac am y gwasanaeth a theyrnged arbennig ddiwrnod yr angladd. Diolch hefyd i Glyn yr organydd ac i Eleri Popty Pen Uchaf am y lluniaeth. Diolch o galon i bawb a gyfranodd mor anrhydeddus er cof am Mam at Gymdeithas Spina Bifida Gogledd Cymru a hefyd Ymchwil Dementia Cymru. Diolch yn olaf i Pritchard & Griffiths yr ymgymerwyr am eu trefniadau parchus a thrylwyr.
Keep me informed of updates