Evan RichardLLOYDEvie Dymuna Dorothy, Aled a Gareth a'u teuluoedd ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a fynegwyd wrthynt o golli, Gwr, Tad a Thaid mor annwyl - Evie Lloyd, 28 East Avenue, Porthmadog. Diolch am yr holl ymweliadau, galwadau ff?n, cardiau a llythyrau. Diolch yn arbennig i'r Parchedig Christopher Prew am ei gefnogaeth ei wasanaeth a theyrnged. Diolch hefyd i Malcom a Dylan a staff Pritchard a Griffiths am y trefniadau mor urddasol. Rydym yn hynod ddiolchgar ar y rhoddion hael a dderbyniwyd er cof am Evie, tuag at Sefydliad Prydeinig y Galon. Mae'r caredigrwydd a chymorth wedi bod gymaint o gysur i ni yn y golled sydyn. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates