Robert GarethJONES(Gareth Traws) Ebrill 20, 2015. Yn dawel yn dilyn cystudd byr yn Ysbyty'r Bwthyn, Pontypridd, yn 57 mlwydd oed o Gwawrfryn, Trefforest, Pontypridd, gynt o Fadfilltir, Cwm Prysor, Trawsfynydd; cymar cariadus Margaret, brawd, ffrind ac ewythr annwyl Gwenan, Clwyd, Ynyr, Deio, Nedw a Nico, mab y diweddar John Heddwyn a Gwendolen, brawd ffyddlon y diweddar Glyn Heddwyn ac aelod hoffus o deuluoedd Brynteg, Dolhaidd, Pontygribyn a Chae Mawr. Gwasanaeth cyhoeddus ym Moreia, Capel y Fro, Trawsfynydd pnawn dydd Llun Ebrill 27 am 1.30 o'r gloch, ac yna rhoddir i orffwys ym Mynwent Pencefn, Trawsfynydd. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ysbyty'r Bwthyn, Pontypridd a Chlwb y Bont, Pontypridd drwy law'r Ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog. Ffôn 01766 512091
Keep me informed of updates