KayeDANIELYn dawel ar ddydd Llun Mehefin 23ain, 2025 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin bu farw Kaye o Heol Felinfoel, Llanelli.
Priod hoff a ffrind gorau Neville, mam annwyl Noelwyn, Gareth, Berian ac Emyr, mamgu a gor famgu arbennig a mam-yng-nghyfraith barchus Sharon, Helen a Rhiannon.
Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Hermon Llannon ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 12fed, 2025 am 11,00 o'r gloch.
Dim blodau. Rhoddion os dymunir tuag at 'Ty Cwm Residence Account' drwy law
O.G. Harries Cyf. Trefnwyr Angladdau Bethel, Heol Yr Orsaf, Pontyberem Llanelli, SA15 5LF (01269) 870350
Keep me informed of updates