Jane BronwenEVANSEVANS - JANE BRONWEN, . Ionawr 15fed 2021yn dawel yn Ysbyty Maelor, Wrecsam yn 92 mlwydd oed o Glennydd, 1 Bro Eryl, Y Bala. Priod y diweddar Thomas Francis Evans, mam arbennig Eurwyn, Heddwyn a Mai, mam yng nghyfraith Gwenda a Carys. Nain a hen nain hoffus a chwaer annwyl i Gwylfa, Celyn a Caradog ar diweddar Robin, Eirlys ac Emrys. Angladd dydd Mawrth, Ionawr 26, cychwyn o'r cartref am 1 o gloch lle gall cymdogion a ffrindiau dalu eu teyrnged olaf gyda rheolau ymbellhau. Bydd y teulu yn mynd ymlaen i angladd breifat yn ol ei dymuniad. Derbynir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Bronwen tuag at 'British Heart Foundation'. Ymholiadiau Peredur Roberts, Derwgoed, Llandderfel, Y Bala, Gwynedd, LL23 7HG. 01678530239.
Keep me informed of updates