Gladys WynJORDAN29 Medi, 2024. Yn sydyn yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac o 6 Stryd Dinorwig, Caernarfon, gynt o Cilgwyn/Carmel, yn 82 mlwydd oed. Priod addfwyn y diweddar Gwilym Arfon, a mam annwyl Noel, Christine a Tracy; mam-yng-nghyfraith Dylan, nain arbennig a balch Gethin, Glesni, Megan, Lois, Sioned a Catrin, hen-nain gariadus Beca a chwaer a modryb garedig. Angladd brynhawn Gwener, 18 Hydref, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Glanrhyd, Dinas, Llanwnda am hanner dydd, yna fe'i rhoddir i orffwys ym Mynwent Llanddeiniolen. Bydd yr hers yn teithio drwy Gaernarfon ar ei ffordd i Gapel Glanrhyd am oddeutu 11.30 o'r gloch. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at gangen leol o Dementia UK. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Gladys