BrendaROBERTSROBERTS - BRENDA, 17eg Mehefin 2016 yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Hosbis Dewi Sant yn 73 mlwydd. Merch annwyl y diweddar Mr a Mrs Idwal Roberts, 2 Bryn Ffynnon, Ysbyty Ifan. Chwaer a chwaer yng nghyfraith werthfawr Ellis Wyn ac Eirwen, Clwyd ac Edith, Dilys a John. Modryb a hen fodryb hoffus Trefor a Marian, Eifion a Wenda, Llinos a John Glyn, Catrin, Betsan ac Endaf, Elin ac Iwan, Mari, Lisa, Rhys, Joseff, Ffion, Mia, Moli a Huw. Bydd colled enfawr i'w theulu a ffrindiau. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Ioan dydd Sadwrn Mehefin 25ain am 2 o'r gloch ac i ddilyn ym mynwent yr Eglwys. Ymholiadau trwy law yr ymgymerwyr Peredur Roberts Cyf, Gweithdy'r Gôf, Pentrefoelas (01690 770408).
Keep me informed of updates