Bronwen,ROBERTS.Yn dawel yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ar ôl gwaeledd byr, o Cae'r Hafod, Maes Caled, Dolgellau, yn 80 mlwydd oed. Priod annwyl Gwyndaf, mam a mam-yng-nghyfraith gariadus Meilir a Gemma, Manon a Gareth, nain arbennig Kayden, Mared a Robin, chwaer hoff Buddug ac Enid, a ffrind i lawer. I gydfynd a'r canllawiau presennol, bydd yr angladd yn breifat. I roi cyfle i berthnasau a ffrindiau gael talu eu teyrnged olaf, bydd yr hers yn trafeilio drwy Sgwâr Dolgellau dydd Mawrth 1af o Fehefin oddeutu 12.45 o'r gloch. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Tŷ Gobaith Conwy trwy law Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, 5 Rhes Eldon, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PY. Ffôn: 01341 422 322.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Bronwen,