John DyerJAMESJAJAMES - JOHN DYER, 25ain o Ionawr 2019. Yn dawel yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth o Ffridd y Gôg, Coed y Fronallt, Dolgellau, yn 95 mlwydd oed. Gŵr ffyddlon Hilda, tad caredig Eirlys a Gwyndaf, Eurof a Diane, taid hoffus Sion, Dafydd, Heledd, Iolo a Mia a taida annwyl Tommy, Idris a Caron. Angladd preifat. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yng Nghapel Tabernacl, Dolgellau, dydd Llun, 4ydd o Chwefror am 1 o'r gloch. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Papur Llafar y Deillion, Dolgellau a'r Cylch trwy law Mr. Gareth Roberts, Gwelafon, Cae Deintur, Dolgellau,Gwynedd, LL40 2YN. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, 5 Rhes Eldon, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PY. Ffôn: 01341 422 322 neu Dinas Mawddwy 01650 531 240.
Keep me informed of updates