EdfrynROBERTSROBERTS - EDFRYN, 17eg o Hydref 2018. Yn dawel yn Ysbyty Bronglais, o Tegfan, Penegoes. Priod annwyl Olwen, tad a thad-yng-nghyfraith balch Derwyn a Chris, Rhian a Tim, Eryl a Wyn, Iwan a Teresa. Taid direidus Megan, Tesni, Hanna, Elan, Tomos a Dylan. Ewythr parchus Arwyn, Eirlys ac Edwina. Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus i ddiolch am ei fywyd yng Nghapel Maengwyn, Machynlleth dydd Gwener 2il o Dachwedd am 2 o'r gloch. Dim blodau. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir tuag at Parkinsons UK Cymru trwy law Mr. Alun Lewis, Gallt-y-Llan, Penegoes, Machynlleth, Powys, SY20 8DF. Ymholiadau i Glyn Rees a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys, SY20 9JD. Ffôn: 01650 531 240 neu Dolgellau 01341 422 322.
Keep me informed of updates