Betty GwynneROBERTSROBERTS - BETTY GWYNNE, Bwlch y Ffordd, Ganllwyd. 22ain Chwefror 2015. Yn sydyn ond yn dawel yn ei chartref. Priod annwyl Gareth, mam gariadus Iwan a Lynne, mam yng nghyfraith hoffus Gwyn a nain hwyliog Dafydd a Casha. Chwaer deyngar Dorothy a'r diweddar Pryderi a Harri (H.R.) Chwaer yng nghyfraith annwyl Trebor, Nan a Gwenda. Gwasanaeth angladd hollol breifat Ddydd Mercher 4ydd Mawrth yn y cartref. Dim blodau na rhoddion yn ol eu dymuniad. Ymholiadau pellach i Pritchard a Griffiths Cyf, Tremadog, Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH 01766 512091
Keep me informed of updates