Dafydd (Dolhaidd)JONESJONES - DAFYDD (DOLHAIDD), Mehefin 18fed 2015. Yn dawel yng nghwmni ei deulu, yn ei gartref Cysgod y Foel, Cwm Prysor, Trawsfynydd yn 89 mlwydd oed. Gwr cariadus a thyner Liz; tad arbennig a rhagorol Gwynedd a Helen, Alun a Wendy; taid balch ac ymroddgar Gwenlli, Morgan, Glesni, Lewis, Saran a Dafydd; brawd annwyl i'r diweddar Arthur, Megan Mair, Jane, Evan a John. Gwasanaeth cyhoeddus yn Nghapel Moreia y Fro, Trawsfynydd dydd Iau Mehefin 25ain am 1yp ac yna rhoddir i orffwys ym Mynwent Pencefn, yn hollol breifat, i'r teulu'n unig. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Canolfan Iechyd Trawsfynydd a'r Nyrsus Cymunedol trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf., Heol Dulyn, Tremadog. Ffon 01766 512091.
Keep me informed of updates