MyfanwyWILLIAMSWILLIAMS - MYFANWY (Anti Nanw), Ael y Garth, Harlech, 27ain Chwefror 2015, Yn dawel yng Nghartref Bodawen, Porthmadog, yn 95 mlwydd oed. Gwraig ffyddlon y diweddar Owen Idris, mam a mam yng nghyfraith arbennig Ann a Bernd, Alun a Dilys a'r diweddar Melvyn. Nain ffeind Neil a Siôn a hen nain hoffus Kasey. Yr olaf o unarddeg o blant Groes Lwyd. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Tanwg, Harlech dydd Llun 9fed o Fawrth am 11.00 o'r gloch y bore, yna rhoddir i orffwys ym mynwent yr eglwys. Dim blodau ond os dymunir derbynnir rhoddion tuag at Ambiwlans Awyr Cymru trwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL4RH 01766 512091
Keep me informed of updates
Add a tribute for Myfanwy