Ann ReesPHILLIPSYn dawel ar Ebrill 23, 2015 yn Ysbyty Glangwili, Ann o Swn y Dwr, Trefechan, Hendygwyn, cyn-athrawes yn Ysgol Dyffryn Taf; priod ffyddlon Don a chwaer annwyl Huw a John. Gwelir ei heisiau gan gylch mawr o deulu a ffrindiau. Angladd dydd Gwener, Mai 8, gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 1.45yp. Blodau'r teulu yn unig, rhoddion er cof, os dymunir, tuag at "Leukaemia and Lymphoma Research" trwy law Glanmor D Evans a'i Fab, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG. Ffôn 01267 241626.
Keep me informed of updates