William RichardJONESJONES - WILLIAM RICHARD (Wil Art), 30 Awst, 2020. Yn sydyn yn ei gartref Noddfa, 50 Bangor Street, Y Felinheli yn 60 mlwydd oed. Tad annwyl Ceri, Elliw, Aron ac Osian, a thaid hoffus Kayla Lee, Noa-Jac, Meia-Elliw ac Ena-Heidi; mab addfwyn Mrs Nansi Jones a'r diweddar Owen Henry Jones, a brawd triw Gareth. Brawd-yng-nghyfraith i Nerys ac Yncl i Owain, Rhys ac Elin. Hefyd athro a ffrind cywir i lawer ac yn un y bydd colled fawr ar ei ôl. Angladd brynhawn Mawrth, 15 Medi, 2020. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am 12.00 o'r gloch, gyda'r rheoliadau pellhau cymdeithasol cyfredol i'w dilyn os gwelwch yn dda. Bydd yr orymdaith angladdol yn cychwyn o Ben-y-groes, heibio Ysgol Dyffryn Nantlle am oddeutu 11.00 o'r gloch, cyn gadael am Fangor. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Wil tuag at Adran Gelf Ysgol Dyffryn Nantlle. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Leave a tribute for William