AlbertTHOMASTHOMAS - ALBERT (Albert y Fron), Hydref 15fed, 2017. yn dawel yn ei gartref yng nghwmni ei deulu o 7 Morawelon, Malltraeth,Ynys M?n, Yn 87 mlwydd oed. Priod annwyl a ffyddlon Eirianwen, tad tyner Owen, Emlyn, Iona, Menai, Meinir a Merfyn, tad yng nghyfraith hoffus Pat, Sandra, Harri, Mike, Keith a Tracy, taid a hen daid gofalus ac arbennig, brawd agos i Milly, Eleanor, Stan, Derwyn a'r diweddar Elsie a Gwen, brawd yng nghyfraith, cefnder ac ewythr hoff. Gwelir ei golli gan deulu a ffrindiau lawer. Angladd cyhoeddus yn Eglwys Sant Beuno, Trefdraeth dydd Llun Hydref 23ain gwasanaeth am 1yp ac i ddilyn yn Amlosgfa Bangor am 2.15yp. Blodau teulu'n unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir er c?f am Albert tuag at Feddygfa Parc Glas, Bodorgan ac Hosbis yn y Cartref trwy law yr Ymgymerwyr R. Hughes a'i Fab, Eilian House, Ffordd Glandwr, Llangefni, Ynys M?n.LL77 7EF. Ff?n:01248 723 497
Keep me informed of updates