HughATKINSONATKINSON - HUGH, Gorffennaf 8fed 2021. Yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn 73 mlwydd oed o 100 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog. Gŵr ffyddlon Kathleen; tad annwyl, Graham, Steven a'r diweddar Nicola; taid cariadus Melizza, Ceri a Chantelle; hen daid i Aria a Sean; brawd hynaf Dennis, Ann, Rona, Eric, Roger a'r diweddar Colin; brawd yng nghyfraith i Veronica, Carolyn a'r diweddar John, Gwendolyn a Pat. Gwasanaeth preifat, o dan yr amgylchiadau presennol, ddydd Mawrth, Gorffennaf 20fed yn Amlosgfa Bae Colwyn. Bydd yr hers yn cychwyn o 100 Stryd Fawr am 12.30yp ac yn parhau drwy'r Stryd Fawr ar ei thaith i'r Amlosgfa lle bydd cyfle i gyfeillion a chymdogion Hugh ddod allan i dalu'r gymwynas olaf iddo. Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion er cof am Hugh tuag at Sefydliad y Galon a Awyr Las (Ward Alaw) drwy law yr Ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf., Heol Dulyn, Tremadog LL49 9RH - 01766 512091
Keep me informed of updates