MorfyddBARTLETT (ROBERTS)24 Tachwedd, 2024. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, gynt o Garmel, yn 97 mlwydd oed. Priod y diweddar Peter, a mam arbennig Alun, Eirina, Rhian a'r diweddar Eirlys; mam-yng-nghyfraith hoff Bethan, Ieuan, Malcolm a David, nain falch Dylan, Gwenlli, Caryl, Carwyn, Neil, Nia a Dewi a hen-nain (nain bach) gariadus Lliwen, Cain, Gruff, Greta, Ned, Gethin, Eleri, Nel a Lois.
Angladd brynhawn Iau, 12 Rhagfyr, 2024. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor am hanner dydd. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Morfydd tuag at Ymchwil Canser Cymru a Diabetes UK Cymru. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Morfydd