Katie EllenBOWNESS2 Mai, 2022. Yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref, Tan y Bryn, Pen-y-groes, yn 79 mlwydd oed. Priod addfwyn a thyner Gareth, mam arbennig Alun a Geraint a mam-yng-nghyfraith annwyl Carolyn a Sam; nain ofalus Siôn, Iwan a Catrin, Cai, Erin a Beca, a chwaer hoff Gwennie, Meirwen a'u teuluoedd. Angladd brynhawn Llun, 9 Mai, 2022. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Soar, Pen-y-groes am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Macpelah. Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates