Evan GarethBUCKLEYBUCKLEY - EVAN GARETH , 17eg Ionawr 2018. Yn dawel yng nghwmni ei ferch yn Ysbyty Alltwen, Tremadog yn 86 mlwydd oed, o 40 Maes Gerddi, Porthmadog. Priod annwyl y diweddar Margaret a thad ffyddlon Carole a'i phriod Selwyn. Taid bendigedig i Ceri a thaid oedd yn arwr i Julian. Hen daid balch i Iestyn. Brawd ac ewythr caredig: bydd yn golled i lawer ar ei ol. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel y Porth, Porthmadog dydd Mercher 24ain o Ionawr am 1.30 o'r gloch, ac yna i ddilyn ym Mynwent Treflys. Blodau'r teulu'n unig ond os dymunir derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Gyfeillion Ysbyty Alltwen a Chanolfan Dydd Encil y Coed, Criccieth drwy law'r ymgymerwyr Pritchard a Griffiths Cyf, Heol Dulyn, Tremadog. 01766 512091.
Keep me informed of updates