HughesCERIDWENHUGHES - Dymuna teulu y ddiweddar Ceridwen ('Ceri') Hughes Morris, Tir na Nog, Abergele, ddatgan eu diolchgarwch cywiraf i bawb a fu mor gefnogol, gofalus a meddylgar ohoni hi yn ogystal a ni, yn ystod ei gwaeledd maith a'i ymadawiad disymwth. Hoffwn hefyd gydnabod gofal arbennig Dr O'Reilly a Delamere Ward, Ysbyty Clatterbridge, Prof. Stuart, Uned Heulwen ac eraill yng Nglan Clwyd lle y cafodd sylw a gofal mawr. Carwn gydnabod gwasanaeth y llu o weinidogion a fynychodd ei chynhebrwng. Derbyniwyd hyd yn hyn £3,300 mewn rhoddion hael i rannu rhwng yr ysbytai ac Ymchwil Clefyd y Cancr. Yn olaf, gwerthfawrogwn yn fawr iawn trefniadau trefnus, sensitif a gofalus gan y Cwmni R. W. Roberts a'i Fab, Dinbych ac Abergele.
Keep me informed of updates