Thomas GlanvilleCHARLESAr 15fed o Ionawr 2025, hunodd Glan, Aberglwydeth, New Inn, Pencader, yn dawel yn Ysbyty Glangwili yn 91 mlwydd oed. Gŵr addfwyn y diweddar Ray, tad a thad yng nghyfraith annwyl Huw, Alun a Cerys, tad-cu balch Tomos ac Ioan, brawd arbennig i John a'r diweddar Amelia, Olive a Ceinwen. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus am 2.00 y.p. ar ddydd Gwener 31ain o Ionawr 2025 yng Nghapel Salem New Inn ac wedyn ym Mynwent Pencader. Blodau'r teulu yn unig ond rhoddion os dymunir tuag at Tir Dewi drwy law Mr Dorian Harries ar rhan G. Harries a'i Feibion, Cyfarwyddwyr Angladdau, Maesybwlch, Pencader, SA39 9BY. Ffôn 01559 384903 / 384386
Keep me informed of updates
Leave a tribute for Thomas