PrysDAFYDD(Llandâf, Caerdydd. Tŷ Nant, Caerfyrddin gynt) Yn dilyn salwch byr, ar 23.11.24 yn 58 oed. Gŵr cariadus Sioned, tad addfwyn a hwyliog Lewys a Cadi, mab annwyl Elinor a'r diweddar John Davies, brawd a ffrind i Sioned, Angharad, Tudur, Gruffydd a'u teuluoedd, mab-yng-nghyfraith Gwynfryn ac Eryl Evans, cyfaill i lawer. Yn dilyn gwasanaeth preifat yn yr amlosgfa, bydd gwasanaeth cyhoeddus i ddathlu bywyd Prys, dydd Mercher, 18.12.24 am 2 y prynhawn yng Nghapel Salem Treganna CF5 1QE. Rhoddion pe dymunir i Ysbyty Felindre a Hospis y Ddinas drwy law Tudur Davies, Tŷ Clyd, 26 Granville Avenue, Llandâf, Caerdydd CF5 1BW.
Keep me informed of updates