Thomas IdwalDAVIES1923 - 2015 Yn dawel yn Ysbyty Glangwili yng nghwmni ei deulu ar nos Sul Ionawr 11, hunodd Idwal, Caerowen, Pontsian; priod ffyddlon y diweddar Pegi, tad cefnogol a ffrind anwylaf Meinir, ffrind a chwmn?wr mawr Cennydd, tad-yng-nghyfraith parchus Gwynfor, brawd Rhiannon a'r diweddar Gareth. Gwasanaeth angladdol preifat yng Nghapel Carmel, Prengwyn dydd Llun, Ionawr 19, 2015 am 2 o'r gloch. Estynnir gwahoddiad i aelodau Capel Carmel. Dim blodau, derbynnir cyfraniadau er cof, os dymunir, tuag at Meddygfa Teifi trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg Llandysul, SA44 4XB. Ff?n 01545 590254.
Keep me informed of updates