Rachel ElizabethDAVIES(Ray) Yn dawel yng Nghartref Brondesbury, Aberteifi ar ddydd Gwener Mai 29, 2015 hunodd Ray, Minffordd, Y Rhos, Aberteifi; priod hoff Gerallt a mam dyner Mererid, Noel a Ruth, mam-yng-nghyfraith Ifor a Rhian, mam-gu Lois a'i phriod Anthony, Heledd a Nia Fflur, Ioan a Carys a hen-famgu annwyl. Yn ol ei dymuniad fydd y gwasanaeth angladdol yn Breifat yng Nghapel Degwel, Llandudoch ac yna rhoddir i orffwys ym mynwent Eglwys St Thomas. Cynhelir y gwasanaeth ar ddydd Gwener Mehefin 5, 2015 am 1 o'r gloch. Dim blodau ond, derbynnir cyfraniadau os dymuner tuag at Ymchwil Addison's trwy law yr Ymgymerwr Angladdau Maldwyn Lewis, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH.
Keep me informed of updates