William AlunDAVIES(Alun Llwchyrhal) Yn dawel ar ddydd Mercher Tachwedd 4, 2015 yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin hunodd Alun, Murmur-y-Ceri, Blaen-cil-llech, Castell Newydd Emlyn yn 87 mlwydd oed; priod tyner a gofalus y diweddar Mair, tad annwyl Elwyn a'i briod Carys, tadcu cariadus Aled a'i briod Sara, Catrin a Ffion, hen-ddadcu balch Elis a Steffan, brawd, brawd-yng-nghyfraith a ffrind hoffus. Gwasanaeth Angladdol Cyhoeddus a Chladdedigaeth yng Nghapel Bryngwenith, Henllan ddydd Sadwrn, Tachwedd 14 am 11.30 o'r gloch. Dim blodau, ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymuner tuag at elusen Ysbyty Plant 'Arch Noa' trwy law Maldwyn Lewis, Ymgymerwr Angladdau, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH. Ffon 01239 851005.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William