JohnDAVIESAr Chwefror 16 bu farw'r hanesydd John Davies; gr Janet, tad, tad-yng-nghyfraith a chyfaill Anna ac Ian, Beca a Trystan, Guto a Petra, Ianto ac Yvonne, brawd Anne a thad-cu Conor, Mabon, Elin, Llywelyn, Mared a Iestyn. Angladd preifat i'r teulu yn unig ar ddydd Iau 26 Chwefror. Dim blodau, ond rhoddion os dymunir er cof amdano i Menter Caerdydd (www.mentercaerdydd.org / 029 2068 9888) i sefydlu cronfa i greu canolfan Gymraeg yng Nghaerdydd, neu'r FONTB (Friends of the Newport Transporter Bridge) trwy ei gwefan www.fontb.org.uk. Cynhelir digwyddiad joli i ddathlu bywyd John yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar ddydd Gwener 17 Ebrill am 5pm. Croeso i bawb.
Keep me informed of updates