EuniceDAVIESDAVIES - EUNICE ALWYNA. Yn dawel ar 2il o Orffennaf yng Nghartref Tregerddan, Bow Street yn gant oed. Eunice Alwyna, gynt o Brynpeiran, Cwmystwyth. Priod annwyl y diweddar Dan, mam dyner a gofalus Garwyn, (y diweddar Eirlys), Marian, Brython a Llinos, mam-yng-nghyfraith barchus, mamgu a hen famgu gariadus ei holl wyrion, wyresau, ei gor-wyrion a'i gor-wyresau a modryb annwyl Gweneira a Mair. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Siloam, Cwmystwyth ddydd Sadwrn, 11eg o Orffennaf am 2 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig, cyfraniadau os dymunir tuag at Ffrindiau Cartref Tregerddan a Chapel Siloam Cwmystwyth, trwy law Mr. Edgar Morgan, Brynmad, Llanfarian, Aberystwyth. Ymholiadau pellach oddiwrth C. Trefor Evans, 01970-820013.
Keep me informed of updates