Robert DavidDAVIESDAVIES ROBERT DAVID. Cefn Nannau gynt, Llangwm. Dymuna Megan, Eirian, Iwan, Nest a'n teuluoedd ddiolch o galon i'n perthnasau, ffrindiau a chymdogion am bob caredigrwydd a ddangoswyd tuag atom yn ein profedigaeth o golli priod, tad a thaid annwyl. Diolch am y gofal arbennig a dderbyniodd Robert gan Dr DP Norton, Dr Dewi Griffiths a staff y Feddygfa, y Gweinyddesau Cymunedol, y Gofalwyr a staff Uned Dydd Cysgod y Gaer. Diolch yn fawr iawn i'r Parchedig William Davies am ei wasanaeth ddydd yr angladd, i bawb a gynorthwyodd mewn unrhyw fôdd ac i'r gynulleidfa am eu presenoldeb a'u rhoddion hael i'r Feddygfa a Chlefyd Parkinson. Diolch i'r Ymgymerwyr G Lloyd Jones, Llanrwst am eu trefniadau trylwyr.
Keep me informed of updates