MargaretDAVIESDAVIES - MARGARET. 7 Awst 2009. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ac o Tal-y-bont, Rhostryfan, yn 86 mlwydd oed. Priod ffyddlon y diweddar Owen Stephen (O.S), a mam gariadus Ann, Ifor, Eryl ac Eirlys; mam-yng-nghyfraith hoff Gareth, Marie, Dilwyn ac Aled, nain falch Sian, Ffion, Rhodri, Catrin, Iwan, Elin, Sion, Llion a Dafydd, a hen-nain annwyl William, Thomas, Megan, Owen, Ela a Harriet. Angladd brynhawn Iau, 13 Awst, 2009. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Horeb, Rhostryfan am 2.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Cefnfaes, Rhos Isaf. Blodau gan y teulu yn unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof amdani tuag at Y Gymdeithas Alzheimer. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. Ffon: 01286 881280.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Margaret