Beryl HefinaDAVIESDAVIES - BERYL HEFINA, Ionawr 3 2018. Yn dawel yn Ysbyty Gwynedd, o Ty Coch, Tudweiliog yn 82 mlwydd oed. Priod hoff y diweddar John a mam annwyl Barry a Wendy, mam ynghyfraith Clive. Nain garedig Elain, Gethin, Cian a Guto. Angladd cyhoeddus yng Nghapel Tudweiliog dydd Mercher, Ionawr 10fed am 1 o'r gloch, ac i ddilyn ym Mynwent Tudweiliog. Dim blodau ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru trwy law yr ymgymerwr R O Jones, Talafon, Tudweiliog, Pwllheli, LL53 8NE 01758 770456.
Keep me informed of updates