ElizabethDAVIESDAVIES - ELIZABETH HYDREF. Gorffennaf 7fed, 2009 yn dawel yn Ysbyty Gwynedd yng nghwmni ei theulu wedi gwaeledd blin a ddioddefodd yn ddewr a dirwgnach, ac o Gerallt, Carmel, Gwynedd yn 64 mlwydd oed. Priod annwyl a ffyddlon Meirion, mam arbennig Gwenan Meirion, Gwynedd Glyn a Delme Rhun, mam yng nghyfraith hoff David, Anya a Sherine, nain gariadus Tomos, Cara, Dion ac Elis ac unig chwaer Gwenfron a'r diweddar Dewi. Angladd dydd Sadwrn, Gorffennaf 11eg. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel "Carmel" M.C. am 10.30 y bore ac i ddilyn yn gyhoeddus ym Mynwent Pisgah "A" Carmel. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir yn ddiolchgar roddion er cof am Elizabeth at Feddygfa Dolwenith, Penygroes naill ai ar y plat offrwm yn y Capel neu trwy law yr ymgymerwr Huw John Jones, Glanrafon, Pontllyfni, Caernarfon, Gwynedd. LL54 5ER Ffon: 01286 660365.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Elizabeth